Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (149) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Yn ogystal, cyflwynodd y Dirprwy Lywydd Rhun ap Iorwerth i’r Cynulliad cyn Cwestiwn 11.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 14.37
NDM5308 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Newid Gwasanaethau Hywel Dda
Dechreuodd yr eitem am 14.37
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Datblygu'r Sector Bwyd yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.33
5 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Arfer Gorau mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad ar Ymweliadau’r Haf ag Awdurdodau Lleol
Dechreuodd yr eitem am 16.14
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas ag adennill meddiant o dai annedd
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud ag adennill meddiant o dai annedd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol
Dechreuodd yr eitem am 16.52
NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â’r Fframwaith ar gyfer rheolaethau ar gyllid cyfalaf a geir yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 17.03
NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â chyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991
Dechreuodd yr eitem am 17.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
9 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
10Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.26
NDM5300 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11Penderfyniad Ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM5301 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.07
Daeth y cyfarfod i ben am 18:09
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 25 Medi 2013